Rydym yn credu y gall creadigrwydd drawsnewid cymunedau. Mae Hwb y Gors yn chwilio am Swyddog Datblygu Rhaglen Gelfyddydau a Chreadigrwydd sy’n siarad Cymraeg i wireddu’r weledigaeth hon drwy ddatblygu rhaglen fywiog o weithdai, arddangosfeydd, prosiectau creadigol a digwyddiadau diwylliannol.
Byddai’r rôl hon yn addas i unigolyn sy’n cael ei ysbrydoli gan yr her o adeiladu rhaglen greadigol a chymuned greadigol o’r newydd. Rydym yn chwilio am rywun sy’n weithredwr yn ogystal ag yn berson creadigol; rhywun sy’n gallu troi syniadau yn brosiectau sydd wedi’u cynllunio a’u rheoli’n effeithiol, datblygu partneriaethau, sicrhau adnoddau a chreu effaith barhaol ar draws Cwm Aman a thu hwnt.