Helen Roach

Mae gan Helen dros 20 mlynedd o brofiad o weithio yn y sectorau gwirfoddol a chyhoeddus yng Nghymru, ac mae hanner ohono wedi’i dreulio’n

Helen smiling at the camera

Mae gan Helen dros 20 mlynedd o brofiad o weithio yn y sectorau gwirfoddol a chyhoeddus yng Nghymru, ac mae hanner ohono wedi’i dreulio’n dylanwadu ar bolisi a chyflawni prosiectau i fynd i’r afael â thlodi tanwydd yng Nghymru. Ar hyn o bryd mae hi’n gweithio fel Rheolwr Prosiect i Cymru Gynnes, gan reoli prosiectau sy’n codi ymwybyddiaeth o negeseuon arbed ynni ac yn rhoi cefnogaeth a chyngor i ddeiliaid tai i’w helpu i gael cartrefi cynnes, ac yn flaenorol bu’n gweithio i National Energy Action (NEA) Cymru. Mae ei rolau y tu allan i’r sector tlodi tanwydd yn cynnwys ymgysylltu â chefnogwyr ar gyfer elusen ryngwladol sy’n canolbwyntio ar effaith newid hinsawdd ar y cymunedau tlotaf yn fyd-eang, a rheoli cysylltiadau ag aelodau ar gyfer Tai Pawb, elusen sy’n hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn sector tai Cymru. Mae Helen yn aelod cyswllt o’r Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth, wedi dysgu Cymraeg bron yn rhugl ac mae’n aelod o bedwar cwmni cydweithredol ynni cymunedol, gan gynnwys Egni Co-op.