Gyda gradd gyntaf mewn Gwyddor Peirianneg a gradd Meistr mewn Rheoli Adnoddau Ynni, dechreuodd Catrin ei bywyd gwaith mewn peirianneg rheweiddio, ond symudodd i effeithlonrwydd ynni mewn adeiladau oherwydd tlodi tanwydd. Sefydlodd Catrin wasanaeth cyngor ynni i denantiaid Llundain yn y 1980au, gan awdura llawlyfrau ar gyngor gwresogi cartrefi, atal drafftiau ac ailgylchu. Aeth ymlaen i weithio gyda nifer o awdurdodau lleol i ddatblygu agweddau effeithlonrwydd ynni rhaglenni adnewyddu tai, yn ogystal â chynhesrwydd fforddiadwy a strategaethau lleihau allyriadau carbon.
O 1999 i 2015, arweiniodd Catrin sefydlu a thwf Asiantaeth Ynni Hafren Gwy, elusen gynaliadwyedd wedi’i lleoli yn Swydd Gaerloyw, gydag ystod o brosiectau a phartneriaethau cyflawni ymarferol a chyfnewid gwybodaeth yng Nghymru, De-orllewin Lloegr a’r UE. Ers 2015, mae Catrin wedi gweithio fel ymgynghorydd annibynnol ar ymchwil a pholisi yn y DU a’r UE, ac wedi cwblhau PhD yn canolbwyntio ar rôl crefftau adeiladu prif ffrwd mewn ôl-osod ynni cartrefi.
Mae Catrin yn aelod o Grŵp Tasg Safonau Ôl-osod BSI, a’r Sefydliad Ynni, yn gymrawd o’r RSA ac yn Ymgynghorydd Cyswllt gyda’r Academi Ôl-osod a’r Cynllun Ardystio Microgynhyrchu. Dyfarnwyd OBE i Catrin yn 2012 am wasanaethau i’r amgylchedd a chyfiawnder cymdeithasol. Mae Catrin bellach yn byw ger Trefynwy.