Clwb Klezmer

18 Ebrill 2026
10:30 am - 12:30 pm

Sesiwn gerddoriaeth gyfeillgar wedi’i hanelu at gerddorion o bob gallu gan gynnwys dechreuwyr neu’r rhai sy’n teimlo allan o ymarfer yn ogystal â chwaraewyr rheolaidd brwd.

Bydd Clwb Klezmer yn archwilio byd rhyfeddol cerddoriaeth Klezmer, arddull draddodiadol o Ddwyrain Ewrop sy’n angerddol, yn gyffrous ac yn hygyrch. Os oes gennych offeryn yn eich cartref ac eisiau profi llawenydd gwneud cerddoriaeth gydag eraill, dewch draw i roi cynnig arni.

Arweinir y sesiynau gan y cerddor Klezmer a hwylusydd gweithdai profiadol Helen Adam.

Darperir yr holl gerddoriaeth a chroeso i chwaraewyr ‘wrth y glust’ hefyd.

10:30am tan 12:30pm gyda seibiant coffi byr.

£5 y sesiwn

Cysylltwch â Helen am ragor o wybodaeth a/neu i archebu: he*************@***il.com

SKU: f50d8aa7aa42 Categories: ,