Flossy and Boo: Carw / Deer

£9 (oedolion); £7 (plant)

Ar y mynydd mawr ac uchel

Lle mae’r mwsogl tywyll yn tyfu

Mae aer cynnes yn codi o drwyn melfedaidd

Mae carnau mawr, meddal yn gadael olion ar y ddaear

Lle mae straeon rhyfeddol i’w darganfod

Codwch eich cyrn ac ymunwch â’r fuches

wrth i ni ddilyn Carw doeth drwy fynyddoedd Cymru a thu hwnt.

Adroddir y stori glyd hon drwy gerddoriaeth, pypedau a gweithgareddau synhwyraidd – sy’n berffaith i blant dan 5 oed a’u teuluoedd.

Perfformir Carw yn ddwyieithog, yn Gymraeg ac yn Saesneg; mae’n ddelfrydol ar gyfer siaradwyr un o’r ieithoedd neu ddysgwyr y ddau.

Gan Flossy and Boo – y cwmni theatr a ddaeth â ‘Blaidd’, ‘Dwrgi’ a ‘Pâl’ i chi – daw stori hudolus ddwyieithog arall am lawenydd antur a harddwch byd natur yng Nghymru.

Archebwch drwy Eventbrite

Description