AM DDIM Dewch i gwrdd â’ch timau brys lleol! Bydd tîm Gwasanaeth Tân Dyffryn Aman yma gyda’u lori dân – gallwch ei harchwilio ac efallai hyd yn oed ddringo arni. Bydd tîm o Heddlu De Cymru yma hefyd i gwrdd â chi; gallwch hefyd ddod â beiciau eich plant i’w cofrestru at ddibenion diogelwch am ddim! (gwnewch drefniadau ymlaen llaw ar gyfer y gwasanaeth hwn drwy anfon e-bost at lu**@**el.coop). Pam na wnewch chi fwydo’r plant dan 12 oed tra byddwch yn yr Hwb – yng Nghaffi’r Hen Ysgol? Mae gennym gynnig gwyliau ysgol am £2 ar gyfer blwch ‘toastie’ o’ch dewis!