Gweithdi Pwnco

9 Rhagfyr 2026
2:30 pm - 4:30 pm

Arweinydd y gweithdy: Geraint Roberts

Mae’r Fari a’i grŵp yn mynd o dafarn i dafarn gan geisio cael mynediad drwy adrodd cyfres o benillion, neu ‘bwnco’. Byddai’r trigolion yn ymateb mewn math o frwydr i drechu’r Fari a’i chriw, gan geisio ei hatal rhag dod i mewn. Yn y pen draw, caiff hi ddod i mewn, gan fod hyn yn dod â lwc i’r aelwyd ar gyfer y flwyddyn i ddod, ac yn gyrru unrhyw beth annymunol o’r flwyddyn flaenorol i ffwrdd. Unwaith y byddant y tu fewn, canir mwy o ganeuon, a rhoddir bwyd a diod i’r grŵp.

Mae croeso i bawb – does dim angen unrhyw brofiad.

Mae’r gweithdai yn rhad ac am ddim, diolch i gyllid o’r Cyngor Celfyddydau Cymru Cronfa Iechyd a Lles. Os byddwch yn mwynhau’r sesiwn ac yn gallu gwneud hynny, bydd cyfle i roi cyfraniad gwirfoddol tuag at weithdai yn y dyfodol yn yr Hwb.

Mae angen archebu lle ymlaen llaw, gan fod nifer y lleoedd yn gyfyngedig. Os byddwch yn archebu lle, rhowch wybod i ni os bydd eich cynlluniau’n newid, er mwyn i ni allu cynnig y lle i rywun arall. Gallwch archebu naill ai’n bersonol yn Hwb y Gors neu drwy’r ddolen hon.

Categories: ,