Gweithdy Argraffu Intaglio Tetra-pak

22 Ebrill 2026
10:00 am - 4:00 pm

£15

Yn y gweithdy undydd wyneb yn wyneb hwn, byddwch yn dysgu sut i greu platiau argraffu intaglio gan ddefnyddio cynwysyddion Tetra-Pak wedi’u hailgylchu (meddyliwch am laeth, llaeth ceirch, neu gartonau sudd). Mae’r dechneg hon yn debyg i sychbwynt, ond mae’n defnyddio deunyddiau bob dydd i gynhyrchu printiau hardd ac unigryw.

Byddwch yn defnyddio offer metel a chyllyll crefft i dorri a chrafu eich dyluniad i’r wyneb, gan ddatblygu eich delwedd drwy gydol y dydd a chofleidio’r gweadau naturiol a’r marciau annisgwyl sy’n dod i’r amlwg yn y broses.

Darperir yr holl offer, cyfarpar a deunyddiau. Os oes gennych ddelwedd benodol yr hoffech ei throsi’n brint, mae croeso i chi ddod â hi gyda chi.

Mae croeso i chi ddod â phecyn cinio, neu gallwch brynu bwyd poeth o’r caffi yn yr Hwb.

Mae’r gweithdy hwn yn ddelfrydol ar gyfer dechreuwyr sydd eisiau dysgu hanfodion gwneud printiau, yn ogystal ag artistiaid mwy profiadol sydd am greu gwaith mewn amgylchedd cefnogol a rennir. Mae croeso i bob lefel profiad.

Ynglŷn â’r Hyfforddwr

Mae Eira McCallum yn wneuthurwr printiau o Ddyffryn Aman. Astudiodd Ddarlunio yn Ysgol Gelf Kingston ac yn ddiweddar hi oedd yr artist preswyl cyntaf yn Hwb y Gors.