£5
Archebwch docynnau ymlaen llaw drwy Eventbrite neu ewch i’r Hwb a phrynwch docyn.
Croeso i Gwyllt am Ffilm! ein clwb ffilm sy’n sbarduno sgwrs ac yn ysbrydoli gweithredu trwy bŵer sinema.
Ym 1981, cychwynnodd grŵp o 36 o fenywod ar orymdaith 120 milltir o Gaerdydd i Berkshire i brotestio yn erbyn y bwriad i daflegrau niwclear Americanaidd gyrraedd tir y DU.
Bydd Karmen Thomas, un o’r pedwar ffrind o Rydaman a oedd â’r syniad gwreiddiol am yr orymdaith, yn ymuno â ni i rannu ei hatgofion.
“We changed ourselves and in changing ourselves, we inspired so many women to change the world” – Rebecca Johnson
Ffilm: 6.30 pm
Egwyl: 8.15 pm – archebwch eich diodydd / bwyd o’r caffi wrth i chi gyrraedd
Trafodaeth: 8.30 – 9.15pm
Am fwy o fanylion ar Yn wyllt am Ffilm gweler ein Tudalen Clwb Ffilm
