Mae Helen Davies o Gwm Aman Uchaf yn Artist Preswyl presennol Hwb y Gors. Mae Helen wedi bod yn creu gwaith newydd wedi’i ysbrydoli gan hanes cyfoethog y safle fel man dysgu a’i drawsnewidiad yn ganolfan arloesol ar gyfer addysg amgylcheddol. Dyma gyfle i weld ei phaentiadau a’i gwaith cyfrwng cymysg.
Bydd cyfle i glywed Helen yn sôn am ei phroses greadigol am 1pm. Mae mynediad am ddim.