Iwcalili i Oedolion
17 Ebrill 2026
11:00 am - 12:00 pm
Am ddim ond archebwch eich tocyn yma
Dewch i ddysgu chwarae alawon Cymreig ar yr iwcalili! P’un a ydych chi’n ddechreuwr llwyr neu’n chwaraewr mwy profiadol, mae croeso i bawb.
- Hanner awr gyntaf: Sesiwn i ddechreuwyr newydd sbon. Gallwch fenthyg iwcalili gennym ni os nad oes gennych chi’ch un eich hun.
- Gweddill y sesiwn: Cyfle i chwaraewyr mwy profiadol ddysgu caneuon ac alawon Cymreig newydd.
Dewch i fwynhau sesiwn hwyliog a chymdeithasol!