Cyflwyniad i’r Fari Lwyd

21 Tachwedd 2026
1:30 pm - 3:30 pm

Dewch i’n digwyddiad lansio Fari Lwyd ar y 21ain o Dachwedd i glywed am bob un o’n gweithdai rhad y dyfodol. Bydd y rhain yn weithgareddau hwyl i ddod â’r gymuned at ei gilydd wrth i’r gaeaf ddod, a pharatoi ar gyfer ein noson Fari Lwyd ar y 30ain o Ionawr.

Bydd y digwyddiad cyflwynol hwn yn cynnwys bwyd, cerddoriaeth, cipolwg ar draddodiad Cymreig y Fari Lwyd a’r cyfle i gofrestru ar gyfer y gweithdai ‘pwnco’, clai a dylunio setiau. Mae’r digwyddiad hwn AM DDIM ond, i’n helpu i gynllunio, byddai’n ddefnyddiol pe byddech chi’n rhoi gwybod i ni os ydych chi’n dod i ymuno. Cofrestrwch yma.

Diolch i gyllid gan Gronfa Iechyd a Lles Cyngor Celfyddydau Cymru, mae pob un o’n gweithdai Fari Lwyd yn rhad ac am ddim, ond gan fod lleoedd yn brin mae archebu ymlaen llaw yn hanfodol. Croeso i roddion.

Mae croeso i bawb – does dim angen unrhyw brofiad!

Categories: ,