Murlun Mosaig Cymundedol – Y Dadlennu Mawr

6 Mehefin 2026
2:00 pm - 4:00 pm

Am ddim. Croeso i bawb. Dim angen archebu.

Ar ôl 8 mis o waith caled gan Dani Lee a dros 50 o bobl, mae ein murlun mosaig cymunedol bellach ar y wal! Dewch i’r Dadlennu Mawr i’w weld yn cael ei ddadorchuddio!

Bydd y caffi ar agor, bydd cerddoriaeth, arddangosfa am y broses, cyfle i archwilio Hwb y Gors a…. cipolwg cyntaf ar y murlun anhygoel!

Mae’r murlun yn bortread o fywyd pan agorwyd yr ysgol gyntaf. Mae’n cynnwys atgofion o’r gymuned ym 1912, wedi’u creu gyda chariad gan ein cymuned yn 2026.

Diolch i Dani Lee a’r holl arlunwyr murluniau. Diolch hefyd i’n harianwyr: Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, Cronfa Dreftadaeth CNPT a Sefydliad Teulu Ashley am helpu i wneud iddo ddigwydd.