Dewch i ymuno â ni am swper tri chwrs ar ddydd Mawrth!
£5 per oedolyn
£3 plentyn
£15 am 4
Bydd ein 12 cogydd dan hyfforddiant yn creu prydau nos gwych dan arweiniad y cogydd Lloyd Henry – neu ‘Cegin Mr Henry’!
Swper yr wythnos hon yw:
Samosa Llysiau gyda Iogwrt Mintys – alergenau: gwenith, llaeth
Cyri Pysgodyn Coch a Thatws Melys gyda Reis Pilau a Raita – alergenau: llaeth
Potiau Cacen Gaws Mango Lassi – gwenith, llaeth
Rydym yn eich gwahodd i ymuno â ni nosweithiau Mawrth am swper blasus tri chwrs, wedi’i baratoi gan ein cogyddion myfyrwyr sy’n cymryd rhan yn ein rhaglen goginio newydd, Sosban Fawr.
Ein nod gyda’r rhaglen hon yw cynnig pryd o fwyd iach, maethlon a fforddiadwy i’r gymuned ei rannu gyda ffrindiau – a gwneud ffrindiau newydd – yn Hwb y Gors.
Archebwch ymlaen llaw yn bersonol yn yr Hwb neu ar Eventbrite yma (dim ffioedd archebu!).
Cegin hyfforddi ydy hi a bydd bwydlen benodol ar gael – bydd ein deuddeg myfyriwr yn paratoi un opsiwn ar gyfer pob sesiwn, ond mae’n ffordd wych o ddod allan gyda ffrindiau i gael pryd o fwyd wedi’i goginio a’i weini i chi (heb orfod golchi llestri!!) am ffracsiwn o’r gost o fwyta mewn bwyty.