Sosban Fawr – Swper Pop Up!

20 Hydref 2026
6:30 pm - 8:30 pm

Dewch i ymuno â ni ar gyfer swper tri chwrs ar ddydd Mawrth! £5 i oedolyn £3 i blentyn £15 i bedwar o bobl Bydd ein 12 cogydd dan hyfforddiant yn paratoi prydau gwych dan arweiniad y cogydd Lloyd Henry, neu ‘Cegin Mr Henry’!

Swper yr wythnos hon yw: Pico de Gallo, Guacamole a Sglodion Tortilla

Tsili llysiau gyda thair math o ffa a reis llysiau

Pot Cacen Gaws Calch (Lime) – alergenau: llaeth, gwenith

Rydym yn eich gwahodd i ymuno â ni nosweithiau Mawrth am swper blasus tri chwrs, wedi’i baratoi gan ein cogyddion myfyrwyr sy’n cymryd rhan yn ein rhaglen goginio newydd, Sosban Fawr. Ein nod gyda’r rhaglen hon yw cynnig pryd maethlon, iach a fforddiadwy i’r gymuned – cyfle i rannu pryd gyda ffrindiau a gwneud ffrindiau newydd yn Hwb y Gors.

Archebwch ymlaen llaw yn bersonol yn yr Hwb neu ar Eventbrite yma (dim ffioedd archebu!). Cegin ddysgu yw hon a bydd y fwydlen wedi’i phennu ymlaen llaw – bydd ein 12 myfyriwr yn paratoi un opsiwn ar gyfer pob sesiwn, ond mae’n ffordd wych o ddod allan a mwynhau pryd sy’n cael ei goginio a’i weini i chi (dim golchi llestri!!) yng nghwmni ffrindiau, am ffracsiwn o’r gost o fwyta mewn bwyty.