Dewch i ymuno â ni am swper!
Tagliatelle madarch a sbigoglys hufennog – alergenau: gwenith, llaeth, seleri
POTIAU SIOCOLÂD A BANANA – alergenau: llaeth
Rydym yn eich gwahodd i ymuno â ni nosweithiau Mawrth am swper blasus o ddau neu dri chwrs, wedi’i baratoi gan ein cogyddion myfyrwyr sy’n cymryd rhan yn ein rhaglen goginio newydd, Sosban Fawr.
Ein nod gyda’r rhaglen hon yw cynnig pryd o fwyd iach, maethlon a fforddiadwy i’r gymuned ei rannu gyda ffrindiau – a gwneud ffrindiau newydd – yn Hwb y Gors.
Archebwch ymlaen llaw yn bersonol yn yr Hwb neu ar Eventbrite yma (dim ffioedd archebu!).
Cegin ddysgu ydy hi – bydd ein deuddeg myfyriwr yn paratoi un opsiwn ar gyfer pob sesiwn, ond mae’n ffordd wych o ddod allan i fwynhau pryd o fwyd gyda ffrindiau am ffracsiwn o’r gost o fwyta mewn bwyty.