Ciwiwch y Gerddoriaeth!

Mae Clwb Klezmer newydd wedi dechrau yn Hwb y Gors ac rydym wrth ein bodd bod cerddorion yn dechrau gwneud cerddoriaeth yn ein hadeilad

Mae Clwb Klezmer newydd wedi dechrau yn Hwb y Gors ac rydym wrth ein bodd bod cerddorion yn dechrau gwneud cerddoriaeth yn ein hadeilad hardd.

Mae Helen Adam, cerddor lleol, wedi sefydlu Clwb Klezmer yn yr Hwb ac mae eisoes yn boblogaidd iawn! Yn ôl Helen, “Klezmer yw cerddoriaeth yr Iddewon Ashkenazy a’i brif flodeuo yn Nwyrain Ewrop oedd yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau’r ugeinfed ganrif. Mae’n codi calon, yn llawen ac yn llawn enaid ar yr un pryd.”

Mae’r grŵp wedi’i anelu at gerddorion o bob gallu o ddechreuwyr i rai profiadol, felly beth am ddod draw gyda’ch offeryn a rhoi cynnig arni. Mae gwneud cerddoriaeth gydag eraill yn ffordd sicr o deimlo’n hapusach ac yn fwy cysylltiedig, sef pethau sydd eu hangen ar bob un ohonom ar hyn o bryd.

Mae’r grŵp yn cyfarfod unwaith y mis ar fore Sadwrn (10-12).

Darperir yr holl gerddoriaeth.

£5 y sesiwn.

Sesiwn nesaf: 15fed o Dachwedd.

Anfonwch e-bost at Helen os hoffech gael rhagor o wybodaeth ar he*************@***il.com