Rydym yn Recriwtio Cynorthwyydd Caffi

Rydym yn chwilio am berson ymrwymedig a dibynadwy i ymuno â’n tîm Caffi’r Hen Ysgol yn Hwb y Gors.

Rydym yn chwilio am berson ymrwymedig a dibynadwy i ymuno â’n tîm Caffi’r Hen Ysgol yn Hwb y Gors. Fel Cynorthwyydd Caffi, byddwch yn helpu gyda’r gwaith bob dydd o redeg caffi cymunedol croesawgar, gan gyfuno gwasanaeth i gwsmeriaid ac ymgysylltu â’r gymuned, helpu i greu man cyfeillgar a chynnal safonau uchel mewn gwasanaeth a glendid ar yr un pryd.

Dyddiad cau: 26ain Awst 2026 Noder, efallai y byddwn yn cau’r broses recriwtio’n gynnar os cawn ddigon o ymgeiswyr ar gyfer y rôl, felly anfonwch eich cais cyn gynted ag y gallwch
Cyfweliadau: 1af o Fedi 2026
Dyddiad cychwyn: Cyn gynted â phosibl