Rydym yn rhannu ein stori ar led ac ar draws

Mae’r erthygl hon wedi ymddangos mewn papurau newydd ledled De Cymru ac wedi arwain at ymweliad gan ein Haelod newydd o’r Senedd, Rebeca Phillips.

three people stand in front of a wooden model of a wind turbine

Mae cymuned yn defnyddio’r gwynt yn eu cwm i fynd i’r afael ag unigrwydd yn eu hardal

Caeodd Ysgol Gynradd Cwmgors yn 2015 ar ôl blynyddoedd o brotestio. Bu’r adeilad ar y farchnad am flynyddoedd, ac roedd llawer yn poeni y byddai’n parhau i ddirywio neu hyd yn oed yn cael ei ddymchwel.

Yn fan lle’r oedd plant a rhieni’n arfer ymgynnull, roedd yn un o nifer o leoedd a gaeodd eu drysau yn y gymuned gyn-lofaol.

Gan wynebu problemau unigrwydd ac arwahanrwydd, wedi’i rhestru ymhlith y 10% o gymunedau mwyaf difreintiedig yn y DU, ac wedi’i effeithio ymhellach gan y pandemig, roedd mawr angen mannau ar yr ardal lle gallai pobl gyfarfod a chysylltu â’i gilydd.

Yn 2018, camodd yr elusen ynni cymunedol Awel Aman Tawe (AAT) i’r adwy a phrynu’r ysgol, ac yn ddiweddar agorodd yr adeilad, sydd bellach wedi’i ailenwi’n Hwb y Gors, ei ddrysau am y tro cyntaf.

Dywedodd Louise Griffiths, rhiant yr aeth ei phlant i’r ysgol ac sydd bellach yn rheolwr canolfan yr Hwb: “Roedd yr adeilad hwn mor annwyl i’r gymuned.

Mae yna adegau gwirioneddol arbennig pan welwch gyn-ddisgyblion a chyn-aelodau o staff yn dod i mewn; mae gennym blant yn rhedeg i fyny ac i lawr y coridorau unwaith eto – mae hynny’n wirioneddol arbennig.”

Mae Hwb y Gors bellach yn darparu gofod cymunedol carbon isel i grwpiau nad oedd ganddynt le i gyfarfod o’r blaen, gan gynnwys grŵp iechyd meddwl, grŵp dysgwyr Cymraeg, clwb ffilm, caffi trwsio misol, gweithdai coginio a theatr ieuenctid.

Mae’n cynnig neuadd, gofod swyddfa cydweithio, caffi cymunedol, stiwdio gelf gyda ffwrn grochenwaith a gardd, gan wneud lle hefyd i grwpiau newydd, gan gynnwys grwpiau celf ysgol.

Dywedodd Louise Craik, Sylfaenydd Grŵp Cymorth Iselder Shadows, fod natur gydgysylltiedig yr Hwb wedi dod yn rhan hanfodol o adferiad ei mynychwyr, gyda’i grŵp yn cyrraedd ei gapasiti ar y sesiwn gyntaf un: “Mae’n lle hyfryd a chroesawgar.

Mae pobl yn cyrraedd yn unig ac yn ynysig; maen nhw’n ofnus ac nid ydynt yn siarad llawer â neb.

Felly, pan ddônt i mewn a gweld yr holl weithgareddau yn yr Hwb, gallwn eu gweld yn datblygu wythnos ar ôl wythnos.“

Rydym yn gweithio law yn llaw [â’r Hwb]; mae fel pe bai’n rhan o’r daith tuag at wella.

Maent yn aros wedyn ac yn mynd i’r caffi, yn cael cinio; ac mae cyfeillgarwch rhyfeddol yn cael ei greu. Mae’r hyn sydd wedi’i greu yno yn anhygoel.”

Mae’r sesiynau poblogaidd iawn yn aml yn cael eu mynychu gan ddynion, rhywbeth y mae hi’n ei ddisgrifio fel “rhyfeddol”, gydag oedrannau’n amrywio o 18 i 74.

Daeth yr arian i dalu am y sesiynau iechyd meddwl ac i brynu’r adeilad o’r gwynt sy’n chwythu drwy’r cwm, diolch i fferm wynt sy’n eiddo i’r gymuned ac sy’n cael ei rhedeg gan yr elusen.

Yn 2017, codwyd dau dyrbin gwynt uwchben Cwmgors gan grŵp mentrus o bobl leol a oedd am harneisio’r gwynt lleol er budd lleol.

Arweiniodd y cwpl Emily Hinshelwood a Dan McCallum yr ymgyrch hon yn 1998 gyda gweledigaeth glir.

Dywedodd Emily, sydd bellach yn Gyfarwyddwr Creadigol AAT:
“Sylweddolon ni’n syml ei fod yn lle gwyntog iawn.

Roedd hynny tua 15 mlynedd ar ôl streic y glowyr. Roedd yr ardal wedi dirywio’n sylweddol; roedd llawer o ddiweithdra a dadrithiad, ac roedd llawer o wasanaethau’n cael eu tynnu’n ôl o’r ardal.

Teimlon ni pe gallem adeiladu fferm wynt, y gallem werthu’r ynni a rhoi’r holl elw yn ôl i’r gymuned er mwyn cefnogi adfywiad yr ardal.”

Nid oedd y daith yn un hawdd. Cymerodd 19 mlynedd, gyda brwydrau yn erbyn camwybodaeth, arolygwyr cynllunio a wrthododd y cynllun dair gwaith oherwydd “effaith weledol”, dau gais tir comin, ymchwiliad cyhoeddus ac adolygiad barnwrol.

Cymerodd y broses ganiatâd cynllunio gymaint o amser nes i AAT sefydlu Egni Co-op, cydweithfa ynni solar lwyddiannus yn y cyfamser. Mae Egni wedi gosod paneli solar ar dros 100 o safleoedd, o ysgolion i adeiladau cymunedol a busnesau, gan ddod yn un o’r cydweithfeydd solar to mwyaf yn y DU.

Er ei fod yn syniad syml mewn egwyddor – codi fferm wynt i gynhyrchu incwm drwy werthu trydan – mae’n dal yn beth prin. Mae llai na deg fferm wynt sy’n eiddo i gymunedau yng Nghymru, ac mae gan bob un ohonynt un tyrbin yn unig.

Er bod ffermydd gwynt preifat fel arfer yn darparu cronfa gymunedol, canfu ymchwil ddiweddar fod ffermydd gwynt sy’n eiddo i gymunedau yn yr Alban yn cynhyrchu 34 gwaith yn fwy o gyfoeth i bobl leol na ffermydd gwynt preifat.

Mae’r tyrbinau’n bwerus iawn. Flwyddyn yn unig ar ôl iddynt ddechrau cynhyrchu trydan, defnyddiodd AAT ei daliad ynni cyntaf i brynu adeilad yr ysgol. Mae’r fferm wynt yn cynhyrchu tua £300,000 y flwyddyn ar gyfartaledd ac oddeutu 11,000,000 kWh o drydan y flwyddyn – digon i gyflenwi tua 3,000 o gartrefi.

Trawsnewidiodd yr arian yr hen ysgol, a oedd yn dioddef o bydredd sych ac ymsuddiant. Mae eu prosiect blaenllaw bellach yn adnodd cymunedol gwerthfawr iawn a luniwyd gyda’r dyfodol mewn golwg.

Mae’r adeilad 110 oed bellach yn cynnwys paneli solar, system wresogi drwy bympiau gwres ffynhonnell ddaear, draeniad seiliedig ar natur sy’n ailddefnyddio dŵr glaw ar gyfer y toiledau a dyfrio’r gerddi, ac mae wedi’i inswleiddio gan ddefnyddio corc naturiol. Y nod yw cadw costau rhedeg yn isel a sicrhau bod yr adeilad yn gynaliadwy am flynyddoedd lawer i ddod.

Pan ofynnwyd iddi am eu model ariannol, sy’n cronni arian ar gyfer prosiectau cymunedol, dywedodd Emily:
“Mae cymunedau wedi mynd yn fwy darniog erbyn hyn; mae angen mwy o gysylltiad rhwng pobl.

Mae unigrwydd a llawer o broblemau iechyd meddwl, gorbryder ac anhawster cyfathrebu ag eraill yn gyffredin. Rhan fawr o’r hyn rydym am ei wneud yw dod â phobl at ei gilydd.”

Yn aml caiff AAT ei gymharu â Glofa’r Tŵr, y pwll glo a brynwyd gan y gymuned yn y 1990au. Mae’r tîm yn gweld gwynt fel y ffynhonnell ynni newydd sy’n dod ag arian yn ôl i’r cwm ac yn helpu i uno cymunedau unwaith eto.

Ac nid dyna ddiwedd y stori. Mae’r sefydliad, a ddechreuodd drwy gynhyrchu trydan cymunedol ac sydd bellach yn arwain prosiectau ynni cymunedol, yn troi ei sylw at ei fentrau nesaf: adfer tafarn gaeedig, Y New Star, a’i hailagor fel adnodd i’r gymuned – ac, gobeithio, ychwanegu ychydig mwy o dyrbinau at eu fferm wynt i helpu i wireddu’r uchelgais honno.