Chris Johnes

Mae gan Chris brofiad helaeth yn y sector dielw, yng Nghymru, ledled y DU ac yn ne Affrica, gydag ymrwymiad i gyfiawnder cymdeithasol a

Mae gan Chris brofiad helaeth yn y sector dielw, yng Nghymru, ledled y DU ac yn ne Affrica, gydag ymrwymiad i gyfiawnder cymdeithasol a hyrwyddo lleisiau cymunedol mewn gwneud penderfyniadau.

Mae Chris wedi bod yn Brif Swyddog Gweithredol Ymddiriedolaeth Adeiladu Cymunedau ers ei sefydlu yn 2015, gan ddarparu cefnogaeth a chyllid i gymunedau ledled Cymru i wneud eu hardaloedd yn lleoedd hyd yn oed yn well i fyw ynddynt. Yn rhinwedd y swydd hon, mae’n gyd-gadeirydd y Bartneriaeth Dyfeisgarwch Cymunedol sy’n hyrwyddo dulliau cydgynhyrchiol o rymuso cymunedau rhwng y sector cyhoeddus a’r trydydd sector.

Treuliodd 5 mlynedd yn gweithio i Oxfam yn rhedeg eu Rhaglen Tlodi yn y DU a’u gweithrediadau yng Nghymru (gan gynnwys ymgyrchu dros newid hinsawdd).

Cyn hynny treuliodd 6 mlynedd yn darparu cefnogaeth i bartneriaethau Cymunedau yn Gyntaf gan redeg Rhwydwaith Cymorth Cymunedau yn Gyntaf ac mae wedi gweithio i sefydliadau ieuenctid a dinesig yn ne Affrica.

Ar hyn o bryd ef yw cadeirydd ymadawol Hub Cymru Africa (swydd a gymerodd yn 2015) ac mae wedi dal rolau anweithredol blaenorol gyda Cadarn Housing a People and Work.