Eira McCallum

Mae Eira yn frwdfrydig dros y celfyddydau ac yn mwynhau archwilio ei ymarfer creadigol ei hun a cyfrwyddo creadigrwydd mewn eraill. Tyfodd lan yng

Mae Eira yn frwdfrydig dros y celfyddydau ac yn mwynhau archwilio ei ymarfer creadigol ei hun a cyfrwyddo creadigrwydd mewn eraill. Tyfodd lan yng Nghwm Aman ac es hi i Ysgol Gyfun Ystalyfera. Aeth ymlaen i astudio Darlunio ac Animeiddio ym Mhrifysgol Kingston yn Llundain.

Ers graddio, mae Eira wedi cymryd rhan mewn amrywiaeth o brosiectau creadigol ac amgylcheddol, gan gynnwys antur bersonol o deithio o Gymru i Ganada heb hedfan. Mae hi wedi bod yn rhan o brosiectau gydag Awel Aman Tawe dros y blynyddoedd, ac ar ôl dychwelyd o Ganada y llynedd, Eira oedd yr Artist Preswyl cyntaf yn Hwb y Gors. Ar ôl dod o hyd i gartref yn yr Hwb, mae hi wedi aros yno fel Swyddog y Celfyddydau, gan helpu i sefydlu’r rhaglen Artist Preswyl a datblygu cyfleoedd creadigol eraill sy’n dod â phobl ynghyd drwy’r celfyddydau.