Mae Emily yn anthropolegwr cymdeithasol ac yn ymarferydd creadigol. Mae hi’n gyd-sylfaenydd a Chyfarwyddwr Creadigol Awel Aman Tawe (AAT). Sefydlodd raglen celfyddydau a newid hinsawdd AAT ac mae wedi goruchwylio ailddatblygiad Ysgol Cwmgors yn Hwb y Gors. Ei hangerdd yw ymgysylltu pobl mewn gweithredu ar yr hinsawdd ac mae hi wedi cynnal llawer o brosiectau i’r perwyl hwnnw. Ymhlith y rhain, ei ffefrynnau yw: calendr Ynni Adnewyddadwy Noeth AAT 2007 (gan annog dros 70 o bobl i dynnu eu dillad – yn enw ynni adnewyddadwy); Cenhadaeth Lleuad Gynaliadwy yn 2019 a oedd yn cynnwys dros 700 o bobl wrth adeiladu capsiwl Lleuad lle bu’n byw fel artist preswyl am 2 wythnos ar lawr uchaf Canolfan Gelfyddydau Pontardawe; a’i thaith gerdded ar draws Cymru (2012) lle gofynnodd ‘3 chwestiwn am newid hinsawdd’ i bob person y cyfarfu ag ef a chreu cerddi gair am air o’u hatebion y mae hi wedi’u traddodi yng nghynadleddau hinsawdd Llywodraeth Cymru a chynadleddau hinsawdd eraill yn y DU ac Ewrop.
Emily Hinshelwood
Mae Emily yn anthropolegwr cymdeithasol ac yn ymarferydd creadigol. Mae hi’n gyd-sylfaenydd a Chyfarwyddwr Creadigol Awel Aman Tawe (AAT). Sefydlodd raglen celfyddydau a newid