Mae Felicity wedi gweithio mewn amrywiaeth o rolau yn y sector elusennol dros y 17 mlynedd diwethaf, gan gynnwys gweithiwr cymorth, rheolwr prosiect ac arweinydd dwy elusen fach arall – gan ddatblygu cryfderau eu sefydliadau a chynaliadwyedd ariannu. Cyn AAT, roedd hyn yn bennaf ym maes darparu gwasanaethau iechyd meddwl a lles a digartrefedd, ond mae hi bellach yn mwynhau gweithio dros angerdd personol arall sef mynd i’r afael â newid hinsawdd.
Rôl Felicity gydag Awel Aman Tawe, ers mis Mai 2021, fu cryfhau seilwaith y swyddogaeth AD a gweinyddiaeth ariannol y cydweithfeydd, ers y twf cyflym yn ystod y blynyddoedd diwethaf; gan weithio’n agos gyda’r tîm i nodi a gweithredu systemau sy’n addas at y diben.
Mae gan Felicity Lefel 5 ILM mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth ac mae’n anelu at lefel 7 ILM mewn Hyfforddi a Mentora Gweithredol, sy’n crynhoi’r defnydd o dechnegau rheoli arfer da ac yn darparu offer AD y gellir eu defnyddio ar bob lefel.
Mae hi hefyd wedi gwasanaethu fel Ymddiriedolwr i YMCA Caerdydd. Mae ganddi radd mewn Celfyddyd Gain (cerameg) a gradd Meistr mewn Menter Celfyddydau Gweledol.