Ymunodd Lisa ag Awel Aman Tawe yn 2022 fel Swyddog Cyllid. Cyn hyn bu’n gweithio yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru am 5 mlynedd fel Swyddog Cyllid a Chyflogres. Mae ganddi dros 15 mlynedd o brofiad o weithio mewn swyddi gweinyddol a chyllid, yn y sector preifat, cyhoeddus ac elusennol.
Ar hyn o bryd mae hi’n astudio i fod yn gymwysedig ACCA. Pan nad yw hi’n brysur yn gweithio nac yn astudio, fe welwch chi hi yn yr ardd, allan yn rhedeg neu’n cerdded, neu’n teithio i leoedd newydd a diddorol.