Rydym yn chwilio am berson ymrwymedig a dibynadwy i ymuno â’n tîm Caffi’r Hen Ysgol yn Hwb y Gors.
Cyflogwr: Awel Aman Tawe
Yn adrodd wrth: Rheolwr y Ganolfan, Hwb y Gors
Oriau: 10 awr yr wythnos ‒ Rhan amser / sifftiau hyblyg (yn cynnwys ar y penwythnos lle bo’r angen)
Cyflog: Cyflog Byw Cenedlaethol
Lleoliad: Hwb y Gors, Cwmgors, SA18 1RF
Hawl i Wyliau: 25 diwrnod o wyliau’r flwyddyn pro rata
Cynllun Pensiwn Moesegol gyda chyfraniad cyflog o 6.5% a swm cyfatebol gan AAT.
Y Gymraeg: Ymrwymiad cryf i fywyd cymunedol trwy gyfrwng y Gymraeg
Pwy Ydym Ni
Mae Awel Aman Tawe yn elusen ynni cymunedol arloesol yng Nghwm Aman uchaf. Ers dros 25 mlynedd, rydym wedi arwain prosiectau hinsawdd, diwylliant a chadernid cymunedol, o gwmnïau cydweithredol ynni adnewyddadwy i adeiladau carbon isel, rhaglenni celfyddydau, sgiliau gwyrdd, addysg a gwaith llesiant. Hwb y Gors yw ein canolfan carbon isel newydd ar gyfer y celfyddydau, addysg a menter ‒ mae’n fan ar gyfer creadigrwydd, diwylliant ac ymgysylltu a’r gymuned.
Crynodeb o’r Swydd
Rydym yn chwilio am berson ymrwymedig a dibynadwy i ymuno â’n tîm Caffi’r Hen Ysgol yn Hwb y Gors. Fel Cynorthwyydd Caffi, byddwch yn helpu gyda’r gwaith bob dydd o redeg caffi cymunedol croesawgar, gan gyfuno gwasanaeth i gwsmeriaid ac ymgysylltu â’r gymuned, helpu i greu man cyfeillgar a chynnal safonau uchel mewn gwasanaeth a glendid ar yr un pryd.
Cyfrifoldebau Allweddol
- Paratoi a gweini bwyd a diodydd (yn cynnwys coffi, te a phrydau ysgafn)
- Datblygu gwybodaeth am ddiogelwch bwyd ac alergenau
- Darparu gwasanaeth rhagorol i gwsmeriaid mewn amgylchedd cynhwysol, croesawgar
- Trin taliadau a defnyddio’r til yn gywir
- Cynnal safonau glendid a hylendid yn unol â rheoliadau diogelwch bwyd
- Helpu gyda rheoli stoc, archebu ac arferion lleihau gwastraff
- Gwneud gwiriadau agor a chau i sicrhau bod y caffi’n rhedeg yn hwylus
- Cysoni derbyniadau arian parod
- Hybu cenhadaeth yr elusen, yn cynnwys ynni adnewyddadwy cymunedol, mentrau cynaliadwyedd a chadernid cymunedol
- Helpu gyda digwyddiadau cymunedol, gweithdai neu weithgareddau allgymorth
- Dilyn arferion ecogyfeillgar (e.e. ailgylchu, lleihau gwastraff bwyd, effeithlonrwydd ynni)
Manyleb Person
Hanfodol
- Siaradwr Cymraeg/dysgwr sy’n ymrwymedig i ddefnyddio’r Gymraeg.
- Cyfeillgar, hawddgar, dibynadwy a chywir
- Sgiliau cyfathrebu a gwaith tîm cryf
- Hyderus wrth weithio’n annibynnol
- Yn gallu gweithio mewn amgylchedd lle mae pethau’n symud yn gyflym
- Hyderus gyda rhifedd ar gyfer trin trafodion – arian parod a chardiau
- Parodrwydd i gyflawni gwiriad DBS
- Hyblygrwydd o ran oriau gweithio i helpu gyda digwyddiadau / cyfnodau prysur yn cynnwys gyda’r hwyr ac ar y penwythnos weithiau
- Tystiolaeth o Hawl i weithio yn y DU
Dymunol
- Profiad sylfaenol o baratoi bwyd neu weithio mewn caffi (dewisol ond nid hanfodol)
- Yn frwd dros faterion amgylcheddol ac ymgysylltu â’r gymuned
- Profiad o wirfoddoli neu weithio mewn elusen neu fenter gymdeithasol
- Gwybodaeth am arferion cynaliadwy (e.e. sero wastraff, cyrchu moesegol)
- Diddordeb mewn cynaliadwyedd, ynni adnewyddadwy, ac/neu waith cymunedol
Hyfforddiant a Ddarperir
- Hylendid bwyd lefel 2
Sut i wneud cais
Anfonwch eich CV a llythyr eglurhaol sy’n esbonio’n glir pam rydych chi eisiau gweithio gyda ni a sut mae eich profiad yn bodloni holl ddisgwyliadau’r rôl.
E-bostiwch eich cais at cr****@**el.coop
Llinell pwnc: Cais ar gyfer Cynorthwyydd Caffi
Dyddiad cau: 5ed Mehefin 2026 Noder, efallai y byddwn yn cau’r broses recriwtio’n gynnar os cawn ddigon o ymgeiswyr ar gyfer y rôl, felly anfonwch eich cais cyn gynted ag y gallwch
Cyfweliadau: 11eg Mehefin 2026
Dyddiad cychwyn: Cyn gynted â phosibl
Gwefan: https://hwbygors.cymru/
Ariennir y swydd hon yn rhannol gan Gronfa Pobl a Lleoedd y Loteri Genedlaethol