Dewch yn Ymddiriedolwr gwirfoddol gydag Awel Aman Tawe (AAT)
Rydym yn chwilio am bobl ymroddedig sy’n ymwybodol o’u cymuned i ymuno â’n Bwrdd Ymddiriedolwyr a helpu i arwain ein helusen wrth inni ehangu ein gwaith i adeiladu economi werdd a theg, wedi’i llunio gan gymunedau ac sy’n darparu gwytnwch a grymuso gwirioneddol.
Fel aelod o’r Bwrdd Ymddiriedolwyr, byddwch yn sicrhau bod AAT yn cyflawni ei ddyletswyddau cyfreithiol, yn dilyn ei weledigaeth, ei genhadaeth a’i werthoedd, ac yn cynnal sefydlogrwydd ariannol. Byddwch yn darparu cyfeiriad strategol, goruchwyliaeth llywodraethu a chefnogaeth i’r tîm gweithredol. Nid oes angen profiad blaenorol o fod ar Fwrdd, ac rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb.
Os ydych yn angerddol am ysbrydoli a sbarduno gweithredu cymunedol tuag at ddyfodol carbon isel, gweler isod i ddarganfod sut i wneud cais i ddod yn Ymddiriedolwr.