£5
Yn y gweithdy 3 awr hwn, wyneb yn wyneb, byddwch yn dysgu sut i greu platiau argraffu intaglio gan ddefnyddio cynwysyddion Tetra-Pak. (Meddyliwch am Laeth Bocs, Llaeth Ceirch, Sudd Oren). Mae hwn yn fath o argraffu intaglio tebyg i Drypoint, ond gan ddefnyddio deunyddiau wedi’u hailgylchu i greu printiau hyfryd ac anarferol. Byddwch yn defnyddio offer metel a chyllyll crefft i dorri a chrafu eich dyluniad ar y plât argraffu. Darperir yr holl offer, cyfarpar a deunyddiau. Os oes gennych ddelwedd benodol yr hoffech roi cynnig arni ei hailgynhyrchu’n brint, dewch â hi gyda chi.
Mae hwn yn weithdy gwych i ddechreuwyr sydd eisiau deall y broses argraffu, a gwneuthurwyr printiau sydd eisiau gwneud printiau mewn gofod a rennir. Croeso i bob lefel profiad!
Ynglŷn â’r Hyfforddwr: Mae Eira McCallum yn wneuthurwr printiau o ddyffryn Aman. Astudiodd Ddarlunio yn Ysgol Gelf Kingston ac yn ddiweddar hi oedd ein hartist preswyl cyntaf yn Hwb y Gors.
Archebwch drwy eventbrite neu ffoniwch yr Hwb i archebu eich lle

