Rydyn ni ar fin agor!

Rydyn ni ar fin agor ein drysau yn Hwb y Gors!

Rydyn ni ar fin agor drysau Hwb y Gors, ac yn dechrau arni gyda chymysgedd gwych o brosiectau sy’n cael eu harwain gan y gymuned.

Rydyn ni’n gyffrous i lansio Cefnogaeth Iechyd Meddwl Cam Cyntaf gyda Grŵp Cefnogi Iselder Shadows yn dechrau ym mis Medi, ochr yn ochr â rhaglen gelf aml-gyfryngol dan arweiniad Mess Up the Mess.

Byddwn ni’n dathlu sgiliau traddodiadol a straeon lleol drwy ein Prosiect Mosaig Cymunedol – lle byddwn ni’n creu murlun mosaig treftadaeth ar gyfer gerddi Hwb y Gors gyda’r artist Dani Lee; a bydd Hannah (ein swyddog celfyddydau ac addysg) yn datgelu ein Llwybr Crefftau Treftadaeth.

Byddwn ni hefyd yn symud ein Café Trwsio poblogaidd misol i’r Hwb, ac yn ail-lansio ein grŵp garddio wythnosol fel rhan o’n Rhaglen Wirfoddoli. Os oes gennych chi ddiddordeb mewn cymryd rhan fel gwirfoddolwr yn yr Hwb, cysylltwch â ni.

Bydd ein Clwb Pwytho yn symud i’r Hwb hefyd, ac rydyn ni’n croesawu grwpiau newydd fel y Klezma Klub misol — gan ddod â cherddoriaeth, creadigrwydd a chysylltiadau i galon y gymuned.

Bydd Awel Aman Tawe yn symud i Hwb y Gors ym mis Medi, felly dyma lle fyddwch chi’n dod o hyd i’n Tîm Ynni a’n tîm Cludiant Cymunedol o hyn ymlaen.

Os oes gennych ddiddordeb mewn rhentu lle neu gynnal prosiect yma, cysylltwch â ni.

Diolch i’n holl gyllidwyr, cefnogwyr a phawb yn y gymuned am fod yn amyneddgar gyda ni yn ystod y 5 mlynedd diwethaf o adnewyddu’r adeilad hardd hwn.