Louise yw Rheolwr Canolfan Hwb y Gors ac mae wedi bod yn gweithio gydag AAT ers 2022. Mae hi’n dweud ‘Yn fy swydd i, dw i’n cael gwneud fy hoff beth a siarad â phobl!’ Ond yn fwy na hynny, mae hi’n gweithio’n galed i sicrhau bod Hwb y Gors yn ganolfan lewyrchus i’n cymuned.
Astudiodd yn Rhydychen, gan ennill radd BEd cyn treulio’r ychydig flynyddoedd nesaf ar y ffordd yn ymweld ag ysgolion ledled Cymru. Ar ôl i’w dau fab gael eu geni, newidiodd i weithio gartref, gan redeg busnes cacennau creadigol. Roedd hi ar Gymdeithas Rhieni ac Athrawon Ysgol Cwmgors cyn iddi gau ac mae wedi dod â chariad dwfn at yr ysgol i Hwb y Gors gan sicrhau nad yw atgofion pawb a weithiodd ac a astudiodd yno yn cael eu hanghofio.
Yn ei hamser hamdden mae hi wrth ei bodd yn cerdded a chwarae gemau bwrdd!